A Majestic Mountain Top Adventure
Hafod Eryri

Welsh Flag

Rhai Ffeithiau
  • Cynlluniwyd yr adeilad gwreiddiol gan Syr Clough Williams-Ellis a’i adeiladu ym 1935. uilding was designed by Sir Clough Williams-Ellis and built in 1935. 
  • Rhaid i Hafod Eryri allu gwrthsefyll hinsawdd eithafol ar y copa
  • – Gwyntoedd dros 150mya (ddwywaith mor gryf â grym corwynt)
    – Dros 5 metr o law
    – Tymheredd o -20°C (heb gynnwys gwynt oer)
  • Cost yr adeilad newydd oedd £8.3miliwn.
  • Fe’i ariannwyd gan:
  • – Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
    – Llywodraeth Cynulliad Cymru
    – Arian Ewropeaidd Amcan 1
    – Croeso Cymru
    – Cwmni Rheilffordd yr Wyddfa
    – heb anghofio rhoddion hael apêl gyhoeddus.
  • Codwyd y strwythur dur ddwywaith. Yn gyntaf mewn warws mawr yn hen waith dur Shotton ac yn ail ar y copa ei hun. Roedd rhaid gwneud hyn oherwydd natur unigryw'r strwythur ac am ei bod hi’n haws i brofi’r adeiladwaith mewn lleoliad lle’r oedd yn hawdd ac yn gyfleus i’w newid.
  • Cariwyd yr holl ddeunyddiau i’r copa ar y trên.
  • Adeiladwyd y waliau, y to a’r lloriau gwych o ithfaen o Flaenau Ffestiniog a Phortiwgal.
  • Mae’r waliau mewnol wedi eu gorchuddio â Derw Cymreig.
  • Collwyd nifer o ddiwrnodau gwaith oherwydd y gwyntoedd uchel a rwystrodd y trên rhag cyrraedd y copa. Pan fydd y gwynt yn chwythu’n gryfach na 42mya yn Clogwyn, chaiff y trên ddim mynd yn ei flaen. Bu’n rhaid i’r dynion gerdded i’r copa sawl gwaith.
  • Gan fod y cynllun yn gofyn am waliau sy’n crymu ac yn gwyro, torrwyd llawer o’r cerrig â llaw gan y seiri meini ar y safle.
  • Gosodwyd capsiwl amser yn y llawr. Casglwyd y cynnwys gan ddisgyblion o Feddgelert a Llanberis.
  • Dewiswyd yr enw allan o 500 o awgrymiadau gan wrandawyr a gwylwyr Radio Cymru, Radio Wales a BBC Cymru. Yn ôl geiriadur Prifysgol Cymru, ystyr “Hafod” yw “ Annedd neu lety haf, trigfan ar ucheldir yr arferai amaethwr a’i dylwyth ynghyd â’r anifeiliaid symud iddi dros dymor yr haf.”

Book Online
Latest News
11th July 2010
History in the making
Rachel's first day
First female guard at Snowdon Mountain Railway
Click to read more >>
Watch our video footage
Watch our video footage
Disabled AccessGreen Dragon Environmental StandardWalesGiants NorthHeritage Great Britain